Programme page on
CHWEDLONI

Am y Prosiect

Dan faner Chwedlau, ym mis Tachwedd, bydd S4C yn dathlu'r traddodiad o ddweud a rhannu stori.

Yn cyd-fynd â'r Flwyddyn Chwedlau, sy'n cael ei hyrwyddo gan Croeso Cymru eleni, bydd amserlen y mis yn cynnwys casgliad o raglenni sy'n gymysgedd o'r hynafol a'r cyfoes.

Mae prosiect Chwedloni yn gosod straeon pobl yng nghanol y dathliadau, yn gymysg gyda'r rhaglenni sy'n dathlu straeon hynafol a phobl sydd yn haeddu'r teitl 'chwedlonol' ei hunain.  

Bwriad y prosiect yw casglu chwedlau bychain Cymru, chwedlau pobol Cymru, eich chwedlau newydd chi sy’n parhau ein traddodiad llafar Cymreig.

Casglwyd dros 50 o chwedlau, o bob cwr, gan bob math o bobol. Ar y wefan hon gallwch wylio’r holl straeon, creu rhestr chwarae, darganfod eich ffefrynnau i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, a pharhau llwybr y chwedlau ymlaen i’r dyfodol. 

Wedi'r cwbl, dyw chwedl ddim yn chwedl heb ei rhannu.

Crëwyd mewn partneriaeth rhwng S4C a Croeso Cymru.